Ein gweledigaeth a'n cenhadaeth
Ein nod yw gwella iechyd, lles ac amgylchedd cymunedau Ynys Môn.
Rydym yn gwneud hyn drwy weithio gyda, a chyfrannu'n uniongyrchol i gymunedau Môn. Maent yn ymwybodol iawn o’u hamgylchiadau, ac rydym yn parchu mai nhw sydd â’r atebion i'r heriau a wynebir ganddynt.
Rydym am i'n Hynys ffynnu. A thrwy gefnogi pobl a sefydliadau lleol, gallwn adeiladu cymunedau hyderus a gwydn lle gall pawb gyflawni hyd at eithaf eu gallu.
Ein gwerthoedd
Rydym yn ymrwymo i fod yn:
-
– i anghenion ein cymunedau a'r amgylchiadau y maent yn eu hwynebu.
-
- yn ein hymrwymiad i ddod â phobl, cymunedau a sefydliadau at ei gilydd mewn ffyrdd sy'n ein galluogi i anelu at nodau cyffredin, pontio perthnasau a meithrin gweledigaeth ar y cyd.
-
– drwy groesawu newid drwy greadigrwydd a chwilfrydedd.
-
– drwy anrhydeddu gwerth ac urddas sylfaenol pob unigolyn, gan greu a chynnal amgylchedd sy'n parchu iaith, traddodiadau, treftadaeth a phrofiadau amrywiol.
-
– yn ein hymroddiad i gefnogi arferion cynaliadwy a chreu newid cadarnhaol ar gyfer y prosiectau, partneriaid a chymunedau rydym yn gweithio gyda.
