-
Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn
“Mae Cymru wedi ennill medal mewn codi pwysau ym mhob un o Gemau'r Gymanwlad ers y 1950au. Mae Canolfan Ffitrwydd Codi Pwysau Caergybi ac Ynys Môn, heb os, wedi bod yn un o'r darparwyr medalau mwyaf. Mae cymorth ariannol wedi ein galluogi i greu campfa weithredol sy'n darparu ar gyfer y chwaraeon elît a'r gymuned yn gyfartal. Mae'n cefnogi ein huchelgais i ehangu mynediad i chwaraeon a ffitrwydd gweithredol cyffredinol, a'r budd posibl a gaiff hyn i iechyd a lles cymunedau Ynys Môn." - Raymond Williams, Prif Hyfforddwr Codi Pwysau Cymru
-
Hwylio Treftadaeth y Fenai
“Hwylio Treftadaeth y Fenai yw ceidwaid un o'r fflydoedd cyflawn hynaf yn y byd – Yacht “One Design” y Fenai. Ein nod yw cadw eu harwyddocâd hanesyddol, diwylliannol a chyfoes ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a hwyluso'r broses o gaffael y sgiliau sydd eu hangen i'w cynnal. Mae cyllid wedi ein galluogi i brynu'r cychod sy'n weddill i'w hadfer gan ein prentis, Polly.” - Henry Chesterton, Cadeirydd Hwylio Treftadaeth y Fenai
-
Chwilio ac Achub Môn
“Môn-SAR yw'r cyntaf, ar unig dîm chwilio ac achub iseldir yng Nghymru. Rydym yn llwyr ddibynnol ar wirfoddolwyr lleol a rhoddion gan fudiadau fel Cymdeithas Elusennol Ynys Môn i weithredu. Mae hyn yn ein galluogi ni i barhau i chwarae rhan yn y gwaith o chwilio ac achub nifer o bobl fregus yng nghymunedau Ynys Môn, a’u dychwelyd i’w teuluoedd”. - Huw Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Rheoli Chwilio ac Achub Môn
-
Clwb Ffilm a Ffotograffiaeth Urdd Ynys Môn
"Mae cymorth ariannol yn parhau i'n galluogi i ddarparu cyfleoedd unigryw drwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc Ynys Môn. Roedd Cwrs tu ol i'r Lens, mewn partneriaeth gyda Screen Wales, yn gyfle hyfforddi gwych i aelodau sydd ag awydd i ddysgu mwy am waith yn y diwydiant ffilm a theledu. Rhoddodd y gweithdy ffilmio profiad ymarferol i'n pobl ifanc, gan ddefnyddio offer camera, golygu a chynhyrchu wrth gyfarfod, holi a dysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant" - Eryl Williams, Urdd Ynys Môn