
Sut rydym yn gweithio
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein llywodraethu yn parhau’n gryf, yn dryloyw, ac yn atebol fel y gallwn barhau i wasanaethu cymunedau Ynys Môn yn effeithiol.
Ym mis Ionawr 2022, cytunodd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr i fabwysiadu strwythur llywodraethu Aelodaeth i ddarparu trosolwg o faterion llywodraethu allweddol, gan gynnwys ethol a phenodi Ymddiriedolwyr, adolygu Adroddiadau Blynyddol, a sicrhau bod cyfansoddiad yr elusen yn parhau i fod yn addas at y diben.
Ochr yn ochr â hyn, mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am arweinyddiaeth strategol, pennu blaenoriaethau ariannu, a diogelu cynaliadwyedd hirdymor y gronfa.
Mae Aelodaeth o'r elusen yn rhinwedd ei swydd, sy'n golygu bod pob Cynghorydd Sir Ynys Môn sy'n gwasanaethu yn etifeddu aelodaeth adeg etholiad.
Wrth i ni barhau i adolygu a chryfhau ein llywodraethu, rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod yr elusen yn gweithredu'n gwbl annibynnol yn unol ag arferion gorau esblygol ar gyfer cyllidwyr elusennol.
Mae’n rhaid i strwythurau llywodraethu adlewyrchu’r safonau uchaf o dryloywder a didueddrwydd, ac rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod y penderfyniadau a wneir yn parhau i fod yn rhydd o ddylanwad allanol ac yn cael eu harwain gan fuddiannau gorau’r cymunedau a wasanaethwn yn unig
Byddwn yn parhau i adolygu ac esblygu ein model llywodraethu i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyson ag arfer gorau yn y sector elusennol.
Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod ein strwythur yn cefnogi penderfyniadau cryf, annibynnol sy'n gwasanaethu pobl Ynys Môn orau a chynaliadwyedd y gronfa yn y dyfodol.
Sut mae Ymddiriedolwyr yn cael eu hethol neu eu penodi?
-
Mae chwech o'n 12 Ymddiriedolwr yn Ymddiriedolwyr Etholedig.
Caiff Ymddiriedolwyr Etholedig eu hethol gan, ac o fewn Aelodaeth yr elusen.
Bob trydydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gwahoddir yr Aelodau i enwebu eu hunain i wasanaethu ar y Bwrdd. Rhaid i Aelodau ddangos tystiolaeth o'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad sydd ganddynt yn unol â manyleb person.
Ar ôl derbyn enwebiadau, gwahoddir yr Aelodaeth i bleidleisio dros yr ymgeiswyr y credant fydd yn gwasanaethu buddiannau'r elusen orau ac yn hyrwyddo ein hamcanion elusennol.
Mae'n ofynnol i bob Aelod ddilyn ein Polisi Etholiad ar gyfer Ymddiriedolwyr Etholedig.
Mae pob un o'n Haelodau hefyd yn Gynghorwyr. Rhaid i Aelodau weithredu'n anhunanol i hybu buddiannau'r elusen, hyd yn oed os ydynt yno am eu bod yn cynrychioli corff arall. Mae gan bob Aelod ac Ymddiriedolwr ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu ein hannibyniaeth.
Ar y sail hon, ac yn unol â chanllawiau'r Comisiwn Elusennau, mae'r Aelodaeth yn ethol ar sail sgiliau a phrofiad personol yn unig, ac nid ar sail cynrychiolaeth bleidiol wleidyddol.
-
Mae chwech o'n 12 Ymddiriedolwr yn Ymddiriedolwyr a Benodir yn annibynnol. Rhaid i Gadeirydd ein Bwrdd Ymddiriedolwyr hefyd fod yn Ymddiriedolwr a Benodir yn annibynnol.
Cyn pob trydydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, cynhelir proses recriwtio agored ar gyfer swyddi gwag Ymddiriedolwyr ar y Bwrdd. Mae'r Ymddiriedolwyr yn gwasanaethu am gyfnod o dair blynedd ond gallant wasanaethu am dymor olynol.
Caiff Ymddiriedolwyr Penodedig eu recriwtio ar y sgiliau, y profiad a'r rhinweddau sy'n ofynnol gan yr elusen ar yr adeg benodol. Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn asesu anghenion yr elusen yn rheolaidd ac yn cynnal archwiliad o unrhyw sgiliau coll. Mae Bwrdd sydd ag ehangder o wybodaeth a phrofiad yn hanfodol i sicrhau bod yr elusen yn cyflawni ei amcanion.
Er mwyn diogelu annibyniaeth yr elusen, ni ddylai Ymddiriedolwyr Penodedig fod wedi gwasanaethu fel Cynghorwyr nac wedi gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn yn ystod y pum mlynedd flaenorol.
-
Cyflwynodd 8 Aelod o’r Gymdeithas eu henwebiadau i eistedd ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Rhwng 21 a 30 Mehefin, 2022, cynhaliwyd etholiad rhithiol i'r Aelodaeth benderfynu pa un o'r enwebeion hyn fyddai'n gwasanaethu ar y Bwrdd orau.
Cymeradwywyd canlyniadau'r etholiad a manylion yr Ymddiriedolwyr Etholedig llwyddiannus yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 26 Gorffennaf, 2022 - sef:
Non Dafydd
Trefor Lloyd Hughes
Gary Pritchard
Dafydd Roberts
Neville Evans
Jackie Lewis
Gallwch pori manylion y canlyniad yma.
-
Ar 30 Medi 2022, cymeradwywyd chwe Ymddiriedolwr Penodedig annibynnol, gan gynnwys Cadeirydd i'r Bwrdd gan yr Aelodaeth:
Dr Edward T Jones (Cadeirydd)
Trefor Owen
Elen Jones
Deborah Chafer
Dr Lowri Angharad Hughes
Ann Tooze